Misrepresentation and Counterfeiting of Wine - FSA - NFCU Rating - RED - Action strongly advised
SUBJECT OF ALERT: The Food Standards Agency’s National Food Crime Unit is asking businesses to be aware of several brands of wine that have been found to be misrepresented in regards to protected origins and have been counterfeited.
WHY ARE WE ISSUING THIS ALERT? A recent NFCU investigation in collaboration with the ICQRF in Italy has discovered large volumes of wine that is not of the expected quality, counterfeited or is not the variety as described on the label.
Photo by Hermes Rivera on Unsplash
ACTION RECOMMENDED: The following products have been found to be affected by the issues mentioned in this alert:
- Product 1 Name: RIANNA MONTEPULCIANO D.O.P
- Product 2 Name: RIANNA PROSECCO
- Product 3 Name: CASTELLO LONGOBARDO TREVISO PROSECCO EXTRA DRY.
Read the full alert for how to spot the counterfeits: English version.
Camgyfleu a Ffugio Gwin - FSA - NFCU - Sgôr – Coch - Argymhellir yn gryf y dylid cymryd camau gweithredu
Testun y Rhybudd: Mae Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gofyn i fusnesau fod yn ymwybodol o sawl brand o win y canfuwyd eu bod wedi’u camgyfleu o ran tarddiad gwarchodedig ac wedi’u ffugio.
Pam rydym yn cyflwyno’r rhybudd hwn? Mae ymchwiliad diweddar gan yr NFCU, gan gydweithio â’r ICQRF yn yr Eidal, wedi darganfod cyfaint mawr o win nad yw o’r ansawdd disgwyliedig, sydd wedi’i ffugio, neu nad yw’n cyd-fynd â’r amrywiaeth a ddisgrifir ar y label.
Camau gweithredu a argymhellir: Canfuwyd bod y problemau a nodir yn y rhybudd hwn yn effeithio ar y cynhyrchion canlynol:
- Enw cynnyrch 1: RIANNA MONTEPULCIANO DOP
- Enw cynnyrch 2: RIANNA PROSECCO
- Enw cynnyrch 3: CASTELLO LONGOBARDO TREVISO PROSECCO EXTRA DRY.
Darllenwch y rhybudd llawn am sut i adnabod y nwyddau ffug: fersiwn Cymraeg.
Comments